Skip to main content

Beat the Street is coming to Llanelli from Wednesday, 28th September to Wednesday, 9th November!

Beat the Street Llanelli: commissioned by Carmarthenshire County Council, supported by Sport Wales, provided by Intelligent Health.

Cabinet Member for Regeneration, Leisure Culture and Tourism Cllr Gareth John, said: “We are incredibly excited to be bringing Beat the Street to Llanelli. It’s free to take part in Beat the Street and it’s open to everyone regardless of age, ability or background. It’s an inclusive game that encourages you to exercise from your front door and to clock up the miles within the game framework.

“Not only does the game help people to get active, it’s beneficial to the whole community too – previous games across the UK, including games in the Rhondda Valley in 2016 and 2017, have shown that the game helps reduce the area’s carbon footprint, helps people get active which in turn improves both mental and physical health, plus also helps to connect participants with the local community.”

More information will be available on www.beatthestreet.me/llanelli and on social media at @BTSLlanelli

Mae gêm gweithgaredd corfforol Beat the Street yn dod i Lanelli!

Mae gêm ryngweithiol boblogaidd sy’n helpu cymunedau cyfan i fod yn actif ar fin lansio yn Llanelli yr hydref hwn!

Crëwyd Beat the Street gan y Meddyg Teulu Dr William Bird er mwyn annog pobl i grwydro eu hardaloedd lleol ac i gerdded, beicio a rholio mewn cystadleuaeth hwyliog.

Mae’r gêm wedi cael ei chwarae gan fwy na 1.5m o bobl mewn mwy na 120 o leoliadau yn y DU a thu hwnt ac fe’i cynlluniwyd i gael cymunedau i symud trwy helpu pobl i wneud newidiadau bach, fel cerdded neu feicio i’r ysgol bob dydd.

Mae Beat the Street nid yn unig yn cael effaith sylweddol ar gynyddu lefelau isel o weithgarwch corfforol ymhlith oedolion a phlant, ond hefyd yn helpu i leihau tagfeydd, yn gwella ansawdd aer, ac yn helpu teuluoedd i dreulio amser mewn mannau gwyrdd gyda’i gilydd.

Mae’r gêm yn agored i unrhyw un o unrhyw oedran a hoffai gymryd rhan ac mae’n cael ei chynnal ledled Llanelli o ddydd Mercher, 28 Medi i ddydd Mercher, 9 Tachwedd. I gymryd rhan, mae plant yn defnyddio cerdyn a map a ddarperir gan yr ysgolion cynradd sy’n cymryd rhan, a gall oedolion gasglu cerdyn am ddim o un o’r mannau dosbarthu a restrir ar wefan Beat the Street Llanelli: www.beatthestreet.me/llanelli

Yna bydd chwaraewyr yn dod o hyd i’w “Beat Box” agosaf a fydd yn ymddangos ar bolion lampau o amgylch Llanelli. Mae’r synwyryddion hyn wedi’u haddasu i’w gwneud nhw’n fwy sensitif fel nad oes angen i chi eu cyffwrdd – yn syml, hofrwch eich cerdyn dros y Beat Box a bydd yn gwneud bîp ac yn fflachio i gofnodi’ch pwyntiau. Bydd 59 o’r rhain o gwmpas yr ardal a gallwch ddod o hyd iddynt ar fap Beat the Street. Mae eich ymweliad cyntaf â Beat Box yn cofrestru’r daith; yna cerddwch, beiciwch neu rholiwch i’r Beat Box nesaf o fewn awr i sgorio 10 pwynt.

Beat the Street Llanelli: comisiynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, cefnogwyd gan Chwaraeon Cymru, darparwyd gan Intelligent Health.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod o’r Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym yn hynod o gyffrous i ddod â Beat the Street i Lanelli.  Mae’n rhad ac am ddim i gymryd rhan yn Beat the Street ac mae’n agored i bawb waeth beth fo’u hoedran, gallu neu gefndir.  Mae’n gêm gynhwysol sy’n eich annog i wneud ymarfer corff o’ch drws ffrynt a chlocio’r milltiroedd o fewn fframwaith y gêm.

“Nid yn unig y mae’r gêm yn helpu pobl i fod yn egnïol, mae’n fuddiol i’r gymuned gyfan hefyd – mae gemau blaenorol ledled y DU, gan gynnwys gemau yng Nghwm Rhondda yn 2016 a 2017, wedi dangos bod y gêm yn helpu i leihau ôl troed carbon yr ardal, yn helpu pobl i fod yn egnïol sydd yn ei dro yn gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae hefyd yn helpu i gysylltu cyfranogwyr â’r gymuned leol.”

Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar www.beatthestreet.me/llanelli ac ar y cyfryngau cymdeithasol: @BTSLlanelli